Rhif y ddeiseb: P-05-1020

Teitl y ddeiseb: Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â'r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020

Geiriad y ddeiseb: Roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai’r canlyniadau ar gyfer arholiadau 2020 gael eu harfarnu ar sail graddau asesu canolfannau. Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr yn awr yw proses dryloyw ar gyfer apelio yn erbyn unrhyw raddau asesu canolfannau a allai fod wedi cael eu gostwng yn sgil y meini prawf asesu a bennwyd gan CBAC, a hynny gan ddiystyru mesurau cydadferol; hynny yw, amgylchiadau amrywiol ymhlith dysgwyr sy'n effeithio ar ddata.

 

 

 


1.     Crynodeb

§    Yn dilyn canslo arholiadau yn 2020, yn y lle cyntaf roedd graddau yn mynd i gael eu dyfarnu dan broses safoni, a gymhwyswyd gan CBAC, i'r graddau a gyflwynwyd ar gyfer dysgwyr gan eu hysgol neu eu coleg.

§    Mewn ymateb i bryderon bod safoni’n arwain at ostwng llawer o Raddau Asesu Canolfannau, penderfynodd Llywodraeth Cymru mai’r radd uchaf o’r Radd Asesu Canolfannau a'r radd safonedig fyddai’n cael ei defnyddio.

§    Ni chaiff ymgeiswyr apelio yn erbyn y penderfyniad proffesiynol y mae eu canolfan wedi'i wneud wrth bennu eu gradd. Dim ond os bu gwall gweinyddol neu weithdrefnol, neu achos o gamymddwyn y caniateir hynny.

2.     Canslo arholiadau a'r broses a roddwyd ar waith ar gyfer dyfarnu graddau yn 2020

Ar yr un diwrnod (18 Mawrth) ag y cyhoeddodd fod ysgolion yn cau, penderfynodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, yn dilyn trafodaethau â Cymwysterau Cymru a CBAC, na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch haf 2020 yn mynd yn ei blaen.

O’r cychwyn cyntaf, dywedodd y Gweinidog y byddai 'gradd deg' yn cael ei dyfarnu i ddysgwyr (Blwyddyn 11 a 13 yn bennaf) y disgwyliwyd iddynt sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'.

Dywedodd canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth, y byddai graddau yn cael eu ‘cyfrifo gan ddefnyddio’r ystod o wybodaeth sydd ar gael, er enghraifft y gwaith a wnaed hyd yma, ffug-arholiadau a graddau wedi’u hasesu gan athrawon’. Dywedodd y Llywodraeth hefyd mai ei ‘nod yw sicrhau na fydd unrhyw ddysgwyr dan anfantais’.

Fel rheoleiddiwr cymwysterau islaw lefel gradd, cychwynnodd Cymwysterau Cymru broses ar gyfer cyhoeddi graddau yn 2020. Byddai'n rhaid i broses o'r fath gofio am y ddau brif nod sydd gan y rheoleiddiwr o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015:

a)      sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;

b)      hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Roedd y broses a roddwyd ar waith gan Cymwysterau Cymru yn golygu bod ysgolion yn cyflwyno gradd (Gradd Asesu Canolfannau) a threfn restrol i'w disgyblion. Cytunodd Cymwysterau Cymru ar ddull y byddai CBAC, fel y corff dyfarnu, yn ei ddefnyddio i 'safoni’r' graddau hyn drwy ddefnyddio model ystadegol. Nod hyn oedd sicrhau tegwch a chysondeb rhwng canolfannau, yn ogystal â chynnal sefydlogrwydd graddau a gwerth y cymwysterau a ddyfernir. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yn erthyglau blog Ymchwil y Senedd a gyhoeddwyd ar 7 Awst 2020 a 14 Awst 2020.

3.     Graddau Asesu Canolfannau

3.1.         Y penderfyniad i ddefnyddio Graddau Asesu Canolfannau

Yn dilyn cyhoeddi graddau Safon Uwch ar 13 Awst 2020, daeth i'r amlwg bod bron hanner (46 y cant) y Graddau Asesu Canolfannau wedi'u newid ar ôl y cyfrifiad safoni. Roedd 42 y cant o'r graddau a gyfrifwyd (wedi’u safoni) yn is na'r Graddau Asesu Canolfannau ac roedd 4 y cant yn uwch.

Ar 17 Awst, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ymgeiswyr Safon Uwch, UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yn cael y radd uchaf o’r radd asesu canolfannau a'r radd a gyfrifwyd o'r model safoni. Roedd hyn yn dilyn pryderon ynghylch nifer yr ymgeiswyr a oedd yn wynebu cael graddau is na’r hyn y cyflwynodd eu hysgol ar eu cyfer o ganlyniad i'r system safoni. Dywedodd y Gweinidog fod y 'cydbwysedd o ran tegwch' bellach yn seiliedig ar ddyfarnu graddau asesu canolfannau i fyfyrwyr.

Gwnaed penderfyniadau tebyg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn holi’r Gweinidog ar 18 Awst 2020. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau gyda Cymwysterau Cymru a CBAC hefyd.

3.2.         Sut y penderfynwyd ar y Graddau Asesu Canolfannau?

Nododd canllawiau a gyhoeddodd Cymwysterau Cymru i ganolfannau ar gynhyrchu Graddau Asesu Canolfannau i'w disgyblion (Mai 2020) y canlynol:

Dylai cynhyrchu graddau asesu canolfannau ar gyfer pob dysgwr fod yn farn broffesiynol gyfannol, sy’n cydbwyso'r gwahanol ffynonellau tystiolaeth. Bydd gan athrawon, Penaethiaid Adran ac uwch arweinwyr ddealltwriaeth dda o alluoedd eu dysgwyr a sut y maent yn cymharu â dysgwyr eraill sy'n cymryd y cymhwyster eleni, ac mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym am i ganolfannau ystyried perfformiad pob dysgwr dros gyfnod yr astudiaeth a llunio barn realistig o'r radd y byddai pob dysgwr wedi bod yn fwyaf tebygol o'i chael pe bai wedi sefyll ei arholiad(au) mewn pwnc, ynghyd ag unrhyw asesiadau diarholiad haf yma. [pwyslais Ymchwil y Senedd yw’r print trwm]

Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalennau 3-5 o'r canllawiau.

4.     Apeliadau 

Yn dilyn y penderfyniad i ddefnyddio Graddau Asesu Canolfannau, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru drefniadau apelio diwygiedig. Ni chaiff ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniad proffesiynol eu hysgol neu eu coleg ar y radd y byddent yn fwyaf tebygol o fod wedi'i chyflawni pe bai arholiadau wedi'u cynnal. Dim ond os bu rhyw fath o wall gweinyddol neu weithdrefnol y cânt apelio.

Roedd eisoes yn wir na fyddai ymgeiswyr yn cael apelio yn erbyn Graddau Asesu Canolfannau heblaw pan oedd gwall gweinyddol neu weithdrefnol, yn hytrach nag mewn perthynas â phenderfyniadau ysgolion ac athrawon. Fodd bynnag, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio Graddau Asesu Canolfannau pan maent yn uwch na graddau a gyfrifwyd, mae prif ffocws unrhyw anghytundeb â'r radd a ddyfarnwyd yn debygol o fod tuag at yr ysgol neu'r coleg, yn hytrach na'r corff dyfarnu a'r broses safoni. .

Penderfynodd Cymwysterau Cymru ddiwedd mis Mehefin, yn dilyn ymgynghoriad, na fyddai dysgwyr yn cael apelio at CBAC yn erbyn y radd y mae eu canolfan wedi'i chyflwyno ar eu cyfer na'r drefn restrol a roddwyd iddynt. Gan nad oes asesiad cyffredin i lywio’r penderfyniadau proffesiynol a wneir, mae’n dweud nad oes meincnod na thystiolaeth safonol ar gael i adolygwr neu wneuthurwr penderfyniadau apêl wrth werthuso penderfyniadau (gweler tudalen 33 o adroddiad penderfyniad Cymwysterau Cymru).

Dywedodd Cymwysterau Cymru hefyd nad oes neb mewn sefyllfa well i wneud y penderfyniadau hyn nag gan athrawon sydd wedi ymgysylltu â’u dysgwyr drwy gydol y cwrs astudio, mai hwy sydd â’r ddealltwriaeth orau o’u galluoedd a sut y maent yn cymharu â dysgwyr eraill yn y ganolfan honno sy’n dilyn y cymhwyster y flwyddyn hon, ac mewn blynyddoedd blaenorol (gweler tudalen 28 o adroddiad penderfyniadau Cymwysterau Cymru).

Cadarnhaodd y Gweinidog yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Awst (gweler paragraffau 346-347 o'r trawsgrifiad) na fyddai ymgeiswyr yn cael apelio yn erbyn penderfyniadau proffesiynol canolfannau.

Fel y mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon yn amlinellu, os oes gan ymgeiswyr bryderon bod eu hysgol wedi dangos rhagfarn neu wahaniaethu wrth benderfynu ar eu Gradd Asesu Canolfannau, dylent gysylltu â'u canolfan a defnyddio gweithdrefn cwyno’r ysgol. Hefyd, cânt drosglwyddo unrhyw dystiolaeth i CBAC a all, wedyn, benderfynu ymchwilio i'r mater fel achos camymddwyn honedig gan y ganolfan. Mae canllaw dysgwyr i'r broses apelio, a luniodd Cymwysterau Cymru, yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.